Seren (symbol)

Symbol teipograffeg, neu glyff, yw Seren (*), a elwir yn seren oherwydd ei debygrwydd at ddelwedd confensiynol o seren. Adnabyddir fel Asterisk mewn amryw o ieithoedd. Daw'r term asterisk o'r Lladin cynnar asteriscus, a'r Groeg ἀστερίσκος (asteriskos), sy'n golygu "seren fach"[1] Pum pwynt sydd gan y seren mewn ffurfdeipiau sans-serif fel rheol, a chwech mewn ffurfdeipiau serif, a phan ysgrifennir â llaw bydd chwe neu wyth pwynt i'r seren.

Mae'r seren yn tarddu o'r angen gan argraffwyr coed teulu bonheddig, a'i ddefnyddwyd fel modd o ddynodi dyddiad geni.[2] Roedd chwe pwynt i'r ffurf gwreiddiol hwn, a phob un â siap fel deigryn yn saethu o ganol y seren.[2] Oherywdd hyn, adnabyddir weithiau gan gyfrifiadurwyr fel splat.[3] Mae ffurfiau unigryw o'r seren i'w gael mewn nifer o ddiwylliannau.

  1. ἀστερίσκος, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, on Perseus
  2. 2.0 2.1  " U+002A ASTERISK. Decode Unicode. Adalwyd ar 22 Mehefin 2011.
  3.  Stephanie (5 Gorffennaf 2007). Know Your Keyboard: Bang, Splat, Whack!. Codejacked.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search